Skip to content

    Navigation breadcrumbs

  1. Home
  2. Resources
  3. Welsh translation: Mynd i gyfraith hawlio iawndal yng Nghymru

    Navigation breadcrumbs

  1. Home
  2. Resources
  3. Welsh translation: Mynd i gyfraith hawlio iawndal yng Nghymru
Self-help guide

Welsh translation: Mynd i gyfraith hawlio iawndal yng Nghymru

Patients and families

1. Beth yw esgeulustod clinigol?

Os ydych chi wedi dioddef anaf o ganlyniad i driniaeth feddygol, gellir cyfeirio at hyn fel ‘damwain feddygol’, ‘digwyddiad niweidiol’, neu ‘ddigwyddiad yn ymwneud â diogelwch cleifion’. Nid yw hyn yn golygu bod y driniaeth yn ‘esgeulus’ o reidrwydd. Er ei bod hi’n bosibl y gellid bod wedi osgoi’ch anafiad pe bai ansawdd y gofal neu fesurau diogelwch wedi bod yn well, mae’n eithaf posibl nad oedd modd osgoi’r broblem. Ni allwch chi gael iawndal dan y gyfraith oni ellir dangos ‘yn ôl yr hyn sy’n debygol’ i’ch triniaeth gael ei gwneud yn esgeulus ac mai dyma wnaeth achosi’ch anafiad yn uniongyrchol. Mewn jargon cyfreithiol, ‘atebolrwydd’ ac ‘achosiaeth’ yw’r enwau ar y profion hyn. Maen nhw’n brofion anodd i’w pasio, ac mae angen barn arbenigol gweithwyr iechyd proffesiynol perthnasol i gael gwybod a fydd eich hawliad yn pasio ai peidio.

Ymhlith yr enghreifftiau o esgeulustod clinigol mae:

2. Pa gamau alla’ i eu cymryd os ydw i’n amau bod triniaeth esgeulus wedi f’anafu?

Fe ddylech chi allu disgwyl o leiaf esboniad llawn o beth sydd wedi digwydd, ymddiheuriad lle bo’n briodol a sicrwydd bod unrhyw broblemau a allai effeithio ar gleifion eraill wedi’u datrys. Weithiau mae’n bosibl cael hyn trwy ddulliau anffurfiol.

Mae defnyddio gweithdrefnau cwyno ffurfiol (gwelwch daflen ar wahân) yn ffordd ddefnyddiol o ennyn rhagor o wybodaeth a allai hefyd ddarparu sail ar gyfer unrhyw benderfyniad ynglŷn â beth i’w wneud nesaf. Efallai y gallwch chi geisio iawndal trwy fynd i gyfraith os yw’n edrych fel pe bai esgeulustod clinigol wedi digwydd. Fodd bynnag, unig bwrpas proses gyfreithiol yw penderfynu pa iawndal, os o gwbl, y dylai fod gennych chi hawl iddo. Er bod y daflen wybodaeth hon yn esbonio’r broses hon i ryw raddau, mae’n debyg y byddai’n ddefnyddiol pe baech chi’n trafod y posibiliadau o hyn gydag un o’r gweithwyr cyngor a gwybodaeth.

Nid ar chwarae bach y dylid penderfynu mynd i gyfraith. Mae’n gallu bod yn ddrud, yn faith ac yn ingol iawn i’r unigolyn. Fe fydd gofyn ichi ddweud beth ddigwyddodd drosodd a throsodd, ac fe allai hyn fod yn drawmatig ac yn ofidus ichi. Fel rheol, fe fydd angen gwasanaethau cyfreithiwr sy’n arbenigo mewn esgeulustod clinigol arnoch chi, gan fod hawliad am esgeulustod clinigol bron bob amser yn gymhleth. Mae gan Avma banel o gyfreithwyr esgeulustod clinigol a gallwn ni’ch helpu i ddewis y cyfreithiwr iawn ar gyfer eich achos chi, a monitro cynnydd.

3. Cyfyngiad ar amser

Mae’n rhaid ichi ddechrau’ch hawliad cyfreithiol o fewn tair blynedd o amser y digwyddiad neu o’r amser y gwnaethoch chi sylweddoli gyntaf eich bod wedi dioddef anafiad. Fe fydden ni’n eich cynghori i geisio cyngor arbenigwr mor fuan â phosibl. Peidiwch â gadael pethau fel nad oes dim ond llai na blwyddyn o’r cyfyngiad ar ôl mewn grym os yw hynny’n bosibl.

Yn achos plant, nid yw’r cyfyngiad o dair blynedd yn berthnasol tan eu pen-blwydd yn ddeunaw oed; mewn geiriau eraill, mae ganddyn nhw tan eu bod nhw’n un ar hugain cyn dechrau hawliad cyfreithiol.

Os yw’r hawliad yn ymwneud â chlaf nad yw, adeg y digwyddiad, yn gofalu am ei faterion ei hun oherwydd anabledd meddwl, nid yw’r cyfyngiad o dair blynedd yn berthnasol hyd nes (ac oni bai) y daw dros ei anabledd.

Yn y ddau achos hyn, gall rhiant neu berson arall sy’n agos atyn nhw hawlio ar eu rhan (yn gweithredu fel eu ‘cyfaill cyfreitha’).

4. Cyfarwyddo cyfreithiwr

Fe fydd angen i’r cyfreithiwr asesu’ch achos i benderfynu a oes gennych chi achos digon cryf iddyn nhw ei bledio. Fe fydd angen cymaint o wybodaeth â phosibl arnyn nhw i wneud hyn, a gallwch chi ddarparu hon trwy gadw cofnod o bopeth sy’n berthnasol i’ch triniaeth ac unrhyw ohebiaeth sydd gennych chi os ydych chi wedi bod trwy’r weithdrefn gwyno. Hefyd, cadwch gofnod o unrhyw gostau neu unrhyw enillion y gallech chi fod wedi’u colli. Fe fydd y cyfreithiwr yn penderfynu a oes gan eich achos obaith rhesymol o lwyddo ac fe ddylai allu rhoi syniad ichi o faint y gallai’ch achos fod werth.

5. Beth yw f’opsiynau ar gyfer ariannu fy hawliad cyfreithiol?

Fe fydd eich cyfreithiwr yn trafod y ffordd orau i ariannu’ch hawliad cyfreithiol. Mae yna nifer o opsiynau ar gael ichi:

Cyllid preifat

Mae’n bosibl y byddwch chi’n gallu ariannu’r hawliad cyfreithiol eich hun; fe fydd eich cyfreithiwr yn gallu dweud wrthych chi faint fydd gwneud hawliad yn costio.

Cyllid cyhoeddus (‘cymorth cyfreithiol’)

Ers mis Ebrill 2013, mae cymorth cyfreithiol sifil (cyllid cyhoeddus) i dalu am hawliadau esgeulustod clinigol wedi’i dynnu yn ôl. Yn achos rhai categorïau penodol o hawlwyr sy’n blant, fel plant sydd wedi dioddef anafiad wrth eu geni, fe fydd rhywfaint o gyllid cyhoeddus yn parhau.

Cymorth undeb llafur

Os ydych chi’n aelod o undeb llafur, mae’n bosibl y byddwch chi’n gymwys i gael cymorth â chostau hawliad cyfreithiol oddi wrthyn nhw.

Yswiriant treuliau cyfreithiol

Mae’n bosibl y bydd eich cyfreithiwr yn eich holi ynglŷn â pha bolisïau yswiriant sydd gennych chi, gan ei bod hi’n bosibl eu bod nhw’n cynnwys yswiriant ar gyfer treuliau cyfreithiol y gellid ei ddefnyddio i ariannu hawliad esgeulustod clinigol. Yn aml, mae yna gyfyngiad penodol ar gostau cyfreithiol, ac efallai y bydd disgwyl ichi gyfarwyddo cyfreithiwr sydd ar restr yr yswirwyr eu hunain. Fodd bynnag, fe ddylech chi bob amser ofyn i gael eich cyfeirio at rywun sy’n arbenigo mewn esgeulustod clinigol (er enghraifft cyfreithiwr ar banel arbenigwyr Avma).

Cytundebau ffi amodol (‘dim llwyddiant – dim ffi’)

Cyfeirir yn aml at y cytundebau hyn fel cytundebau ‘dim llwyddiant – dim ffi’ ac maen nhw’n golygu na fydd yn rhaid ichi dalu ffioedd eich cyfreithiwr os na fyddwch chi’n ennill yr achos. Oherwydd bod achos esgeulustod clinigol yn gymhleth, mae’n bosibl y bydd eich cyfreithiwr yn gofyn ichi dalu am rai ymchwiliadau ar y dechrau, i asesu pa mor gryf yw’ch achos cyn ymrwymo i gytundeb. Gall hyn gostio ambell fil o bunnoedd. Mae’n bosibl y cewch eich cynghori hefyd i drefnu yswiriant (yswiriant ‘ar-ôl-y-digwyddiad’) i’ch diogelu rhag y posibilrwydd y bydd yn rhaid talu costau’r blaid arall pe baech chi’n colli’r achos. Sylwch y gallai’r cleient orfod talu ffi am lwyddo a chyfran o gost yr yswiriant os yw’r hawliad yn llwyddiannus, a fyddai’n cwtogi ar swm y iawndal y byddan nhw’n ei dderbyn ar ddiwedd y dydd.

Mae’r rhain yn drefniadau cymhleth ac fe fydd eich cyfreithiwr yn eich cynghori ar hyn.

6. Sut ydw i’n profi bod gen i reswm dros wneud hawliad cyfreithiol?

Mae hawliadau esgeulustod clinigol yn aml yn achosion cymhleth. Er mwyn i’ch hawliad cyfreithiol lwyddo mae yna ddau linyn i’r achos, sef esgeulustod ac achosiaeth, ac mae’n rhaid ichi lwyddo yn y ddau:

Esgeulustod: Bod y gofal y gwnaethoch chi ei dderbyn wedi disgyn yn is na safonau sy’n feddygol dderbyniol (sylwch: mae’n bosibl y bydd gofal sy’n llai na’r arfer gorau dal yn ‘dderbyniol’ yn ôl y diffiniad cyfreithiol ac felly nid yn ‘esgeulus’), ac

Achosiaeth: Oherwydd bod y clinigydd wedi torri dyletswydd neu wedi bod yn esgeulus, mae hyn wedi arwain yn uniongyrchol at anafiad i chi.

Fel a ddywedwyd, mae’n rhaid ichi lwyddo yn y ddau; nid yw’n ddigon llwyddo i brofi bod rhywun wedi gwneud rhywbeth yn anghywir wrth eich trin, mae’n rhaid ichi hefyd brofi ichi ddioddef anafiad o ganlyniad i’r digwyddiad hwnnw.

Fel rhan o’r ymchwiliadau cychwynnol, fe fydd eich cyfreithiwr yn galw am farn sy’n cefnogi’ch achos oddi wrth arbenigwr meddygol annibynnol. Fe fyddan nhw’n seilio’u barn ar:

Os na fydd eich cyfreithiwr yn gallu cael adroddiad cefnogol oddi wrth arbenigwr annibynnol, ni fydd eich achos yn llwyddo.

Ar ôl asesu’ch achos, fe fydd eich cyfreithiwr yn gallu rhoi rhyw syniad ichi am lefel y iawndal y gallech chi ei ddisgwyl os bydd eich achos yn llwyddiannus. Fe fyddan nhw’n ystyried rhai budd-daliadau nawdd cymdeithasol penodol rydych chi’n eu cael oherwydd eich anafiadau (er enghraifft, cymhorthdal incwm) gan y gallai hyn effeithio ar faint o iawndal y byddwch chi’n ei gael.

Gallwch chi hawlio iawndal am unrhyw anafiadau neu golledion a ddaw i’ch rhan o ganlyniad uniongyrchol i’r driniaeth esgeulus y gwnaethoch chi ei derbyn. Gall hyn gynnwys:

7. Beth os ydw i’n ceisio hawliad mewn perthynas â’m hanwylyn sydd wedi marw o ganlyniad i esgeulustod clinigol?

Os yw’r achos yn ymwneud â rhywun sydd wedi marw oherwydd esgeulustod clinigol, gallwch chi hawlio:

8. Ydy achosion esgeulustod clinigol bob amser yn mynd gerbron y llys?

Pur anaml y mae hawliadau esgeulustod clinigol yn mynd gerbron y llys. Mae llawer o achosion yn cael eu setlo ar ôl cwblhau’r holl ymchwiliadau a chyn cyhoeddi gweithrediadau cyfreithiol, ac mae’r mwyafrif yn cael eu setlo cyn i dreial ddechrau. Anogir y ddwy blaid i setlo’r mater yn gyflym ac i osgoi gorfod talu costau ychwanegol.